Ehangodd Sgriblwyr Cymraeg yn 2023 i redeg am 5 diwrnod mewn prifysgolion ledled Cymru rhwng 6 a 10 Tachwedd.
Mae'r gweithdai Cymraeg rhad ac am ddim hyn i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7, 8, 9) eu cyflwyno i chi fel rhan o Daith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli.
Arweiniodd yr awduron a pherfformwyr enwog, Nia Morais a Casi Wyn, ddigwyddiadau creadigol a rhyngweithiol, a oedd yn dathlu’r Gymraeg, gyda sesiynau gan y prifysgolion hefyd. Llywyddwyd y digwyddiadau gan fardd a pherfformiwr Aneirin Karadog.
Mae Nia Morais yn awdur a dramodydd o Gaerdydd, ac yn Fardd Plant Cymru 2023–2025.
Yn 2020, rhyddhaodd ei drama sain gyntaf, Crafangau, fel rhan o brosiect Calon Caerdydd Theatr y Sherman. Ar hyn o bryd, mae Nia yn Awdur Preswyl yn Theatr y Sherman ac aeth ei drama lawn gyntaf, Imrie, a gyd-gynhyrchwyd gan Frân Wen a Theatr y Sherman, ar daith o amgylch Cymru dros dymor yr haf 2023. Roedd Nia yn aelod o banel beirniadu Gwobrau Tir na n-Og yn 2021 ac roedd hi hefyd, yn rhan o raglen datblygu awduron Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru yr un flwyddyn.
Ar gyfer Sgriblwyr Cymraeg, arweiniodd Nia weithdy rhyngweithiol yn ymwneud ag ysgrifennu straeon ysbryd. Yn y gweithdy, dysgodd y myfyrwyr sut i greu tensiwn ac awyrgylch mewn stori arswydus i godi ofn a phlesio cynulleidfaoedd.
Mae Casi Wyn yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru a thu hwnt fel canwr, awdur a chyfansoddwr. Ar ôl cyfansoddi gweithiau cerddorol a thelynegol gwreiddiol i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac yn fwyaf diweddar, Sinfonia Cymru - mae hi’n Fardd Plant Cymru ar hyn o bryd. Roedd hi'n un o sylfaenwyr Codi Pais, cylchgrawn a chyhoeddwr annibynnol sy'n llwyfannu lleisiau newydd ac amrywiol. Yn 2021, cyhoeddodd ddau lyfr cerddorol i blant, Tonnau Cariad a Dawns y Ceirw. Cafodd ei hanimeiddiad byr, Dawns y Ceirw ei ddarlledu ar S4C ar Noswyl Nadolig 2020.
Yng ngweithdy Casi bu myfyrwyr yn blymio'n ddwfn i'w dychymyg eu hunain i ddod o hyd i drysorau a nwydau y gall barddoniaeth a chân eu datgelu yn unig.
Mae staff prifysgol o Adrannau Cymraeg yn cyflwyno sesiynau ysgrifennu creadigol neu daith prifysgol i fyfyrwyr Sgriblwyr Cymraeg, gan roi blas o fywyd ar y campws iddynt.
Y bardd a’r perfformiwr Aneirin Karadog oedd Bardd Plant Cymru 2013–2015, ac mae'n ysgrifennu barddoniaeth yn bennaf yn Gymraeg. Mae'n siarad pum iaith ac mae wedi bod yn rapio mewn bywyd blaenorol. Cynhaliodd Aneirin holl ddigwyddiadau Sgriblwyr Cymraeg 2023.
10am | Mae ysgolion yn cyrraedd |
10.15am–10.30am | Cyflwyniad |
10.30am–11.15am | Digwyddiad 1 - Nia Morais |
11.15am–11.30am | Egwyl |
11.30am–12.15pm | Digwyddiad 2 - Casi Wyn |
12.15pm–1pm | Cinio |
1pm–1.45pm | Digwyddiad 3 - Sesiwn y Brifysgol |
1.45pm–2pm | Cyfle i’r disgyblion ac athrawon werthuso |
2pm | Diwedd |
Gweithdai Cymraeg digidol rhad ac am ddim ar gyfer disgyblion pontio ym Mlynyddoedd 6 a 7, a gyflwynir i chi yn rhan o Daith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli ac sydd ar gael i’w gwylio eto yn rhydd.
Ymunwch â’r beirdd a’r awduron Gruffudd Owen, Rufus Mufasa, Mererid Hopwood, Aneirin Karadog ac Anni Llŷn ar gyfer y digwyddiadau digidol creadigol a rhyngweithiol, rhad ac am ddim hyn sy’n canolbwyntio ar leoliad, tirwedd a hunaniaeth i ddathlu’r Gymraeg. Fe’u cyflwynir gan Ameer Davies-Rana.